14eg Awst 2015

Par: Adroddiad ar Gyfleoedd Cyflogaeth ar gyfer Pobl dros 50 oed

Annwyl Gadeirydd,

Hoffwn ddiolch i chi am gynnal yr ymholiad hwn sydd ei angen yn fawr ac am gyhoeddi'r adroddiad ar 16eg Gorffennaf [1].

Mae sicrhau bod pobl hŷn yng Nghymru yn gallu aros mewn cyflogaeth neu gael ailfynediad ato a lleihau’r nifer sylweddol iawn o bobl hŷn nad ydyn nhw mewn cyflogaeth, addysg na hyfforddiant yn faterion allweddol, nid yn unig iddyn nhw fel unigolion, ond ar gyfer ein heconomi ehangach yn ogystal.  Rydw i’n falch bod nifer o feysydd a dderbyniodd sylw yn fy nhystiolaeth lafar ac ysgrifenedig yn cael eu hadlewyrchu yn yr adroddiad terfynol.

Mae’r un ar ddeg o argymhellion a gafodd eu cynnwys yn yr adroddiad yn cael eu croesawu ac maen nhw’n allweddol er mwyn sicrhau bod y cyfoeth o wybodaeth, y sgiliau a’r profiad sydd gan bobl hŷn yn cael eu defnyddio’n well yn y farchnad lafur yng Nghymru, gan helpu unigolion, cyflogwyr ac economïau lleol yn y broses.

Wedi ystyried y tri argymhelliad sy’n cyfeirio at fy swyddogaeth:

“Argymhelliad 1: Dylai Llywodraeth Cymru arwain, a gweithio gyda Chomisiynydd Pobl Hŷn Cymru… er mwyn comisiynu ymchwil mewn perthynas â phobl 50 oed a throsodd”; ac

“Argymhelliad 7: Dylai Llywodraeth Cymru, mewn cydweithrediad â swyddfa Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru, gomisiynu ymchwil ar ‘hunangyflogaeth a phobl dros 50 oed’”.

Tra fod rhan helaeth o fy ngwaith yn gyd-weithrediadol yn eu hymagwedd, mae’n bwysig bod Llywodraeth Cymru yn deall ei bod yn bennaf atebol fel rhan o Strategaeth gyffredinol ar gyfer Pobl Hŷn yng Nghymru, Cam 3 2013-23, ac mae eich adroddiad yn alinio’n agos gyda hi, ar gyfer ymgymryd â’r uchod â’r argymhellion ehangach a gafodd eu hamlinellu.  Fy marn i yw y dylai Gweinidog arweiniol gael ei benodi i sicrhau bod hyn yn dryloyw a bod cefnogaeth Weinidogol lawn ar ei gyfer. Awgrymaf bod hwn yn gweddu orau i Julie James AC fel y Dirprwy Weinidog Sgiliau a Thechnoleg, ac rydw i wedi ysgrifennu ati yn benodol ynglŷn âhyn (atodaf fy llythyr).

Dim ond pwynt bach ond pwysig ynglyn â eglurder  ar Raglen Heneiddio’n Dda yng Nghymru. Er cafodd y rhaglen ei sefydlu ac yn cael ei chynnal gennyf fi, nid yw hon yn rhaglen gan Lywodraeth Cymru nac yn rhaglen gennyf fi. Mae’n bartneriaeth ar y cyd nad yw’n derbyn unrhyw gyllid penodol gan y Llywodraeth.

Gan gyfeirio’n benodol at Argymhelliad 4, byddaf yn lansio ymgyrch “Dywedwch Na wrth Wahaniaethu ar sail Oedran” ym mis Hydref eleni a gall Llywodraeth Cymru weithio mewn partneriaeth âmi ac eraill.

Yn olaf, hoffwn ddiolch i chi am eich gwahoddiad i fynychu’r cyfarfod Pwyllgor ar 7 Hydref i graffu ar ymateb Llywodraeth Cymru.  Byddaf yn mynychu’r cyfarfod ac edrychaf ymlaen at weithio gyda chi ymhellach er mwyn sicrhau bod rhagolygon cyflogaeth ar gyfer pobl hŷn drwy Gymru yn cael eu gwella.

Mae croeso i chi gysylltu âmi neu gydag Iwan Williams, Arweinydd Cymunedau, Llywodraeth Leol a Llesiant (iwan.williams@olderpeoplewales.com, 02920 445 045), pe byddech yn dymuno trafod y materion hyn yn fanylach.

Cofion gorau,

digi sig for Sarah R

Sarah Rochira                                                                                                Comisiynydd Pobl Hŷn Cymru

 



[1] http://www.assembly.wales/laid%20documents/cr-ld10305/cr-ld10305-w.pdf